#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-775

Teitl y ddeiseb: Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun ei ymgynghoriad ar ddiwygio deddfau trwyddedu tacsis, i gau'r bwlch yn y gyfraith mewn perthynas â gweithredu tacsis yn 'drawsffiniol' ac 'is-gontractio' sy'n galluogi cannoedd o dacsis a cherbydau hurio preifat o'r tu allan i Gaerdydd ddod i'r ddinas i weithio'n breifat.

Mae digon o gerbydau trwyddedig yng Nghaerdydd i ddiwallu angen y ddinas heb fod angen y ceir hyn o bell megis o Lundain, Gannau Mersi, Canolbarth Lloegr ac ati. A hynny yn ogystal ag awdurdodau cyfagos megis Casnewydd, y Fro a Rhondda Cynon Taf ac ati. Mae hyd yn oed cerbydau nad ydynt yn gweithio ar unrhyw blatfform yn ceisio cael eu hurio'n anghyfreithlon, gan guddio y tu ôl i'r ffaith bod cymaint o gerbydau 'estron' yn y ddinas.

Mae nifer o'r cerbydau hynny heb unrhyw arwydd arnynt, gan wneud joc o'r safonau a osodir gan Gyngor Sir Caerdydd ar y cerbydau y maent yn eu trwyddedu, gan gynnwys lifrai amlwg iawn a gwybodaeth stryd leol. Yn wir, nid yw ond yn fater o amser nes bod person sy'n agored i niwed yn neidio i gar heb drwydded, gan arwain at ganlyniadau erchyll.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mai'r unig dacsis a cherbydau hurio preifat a gaiff weithio yng Nghaerdydd yw'r rheini a drwyddedir gan Gyngor Sir Caerdydd. Diben hyn yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a sicrhau nad yw Caerdydd yn cael ei lygru â mwy o geir nag sydd eu hangen a fydd, os yw hyn yn parhau, yn achosi rhagor o dagfeydd a llygredd yn ein prifddinas. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle i'r gyrrwyr a gaiff eu trwyddedu gan Gaerdydd ar hyn o bryd ennill rhywbeth agos i'r cyflog byw.

Cefndir

Er bod y term “tacsi” yn cael ei ddefnyddio'n aml i ddisgrifio tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddigyfnewid, cânt eu trwyddedu'n wahanol mewn system reoleiddio 'dwy haen'.  Yn 2014, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad terfynol ar ddiwygiadau arfaethedig i wasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat a oedd yn crynhoi'r gwahaniaethau fel a ganlyn:

Taxis can pick passengers up at ranks and be hailed. In legal terms, these activities are currently referred to as “plying for hire” and only taxis can engage with passengers in these ways. Private hire vehicles, on the other hand, can only be pre-booked through a licensed operator, and are not allowed to “ply for hire”.

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru. 

Yn ei adroddiad, disgrifiodd Comisiwn y Gyfraith y trefniadau ar gyfer gweithio trawsffiniol a oedd ar waith ar y pryd, gan egluro y gallai cerbydau hurio preifat yng Nghymru a Lloegr godi cwsmeriaid y tu allan i'r ardal y maent â thrwydded ar ei chyfer. Fodd bynnag, roedd rhaid i yrrwyr, cerbydau a gweithredwyr gael eu trwyddedu gan yr un ardal, ac ni allai gweithredwyr ond gwahodd a derbyn archebion o fewn yr ardal drwyddedu honno.  Ni allai is-gontractio ond digwydd rhwng cwmnïau â thrwydded yn yr un ardal. Roedd Comisiwn y Gyfraith yn dadlau bod hyn yn amharu ar gwmnïau rhag ehangu eu busnes i fod â swyddfeydd mewn ardaloedd cyfagos, ac mae'n fwyfwy anodd i'w blismona yn sgil cynnydd yr archebion a wneir ar y we.

O ganlyniad, fel rhan o gynigion ehangach i ddiwygio'r diwydiant, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid:

[free up] cross-border working for private hire services. Operators should no longer be limited to using drivers and vehicles from their own licensing area; nor should they be restricted to only inviting or accepting bookings within that licensing area. Under our recommended regulatory framework, licensing district boundaries lose much of their importance in relation to private hire vehicles. Although local authorities will continue to administer licences applied for in their area, they will do so on the basis of national standards, which they will have no discretion to vary. Once licensed, providers will be able to work across England and Wales and subject to enforcement action by officers of any licensing authority.

O ganlyniad, roedd Adran 11 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015(deddf y DU) yn galluogi gweithredwr cerbydau hurio preifat i is-gontractio archeb i weithredwr arall a oedd wedi'i drwyddedu mewn ardal drwyddedu wahanol.  Roedd cyhoeddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol ynghylch y Ddeddf yn nodi (pwyslais wedi'i ychwanegu):

The LGA strongly opposed the clause [which became section 11] on the grounds that it had been brought forward without the accompanying safeguards deemed necessary by the Law Commission’s review of taxi licensing.

Nid yw trefniadau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat wedi'u datganoli ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli trwyddedu i'r Cynulliad. Disgwylir i'r darpariaethau perthnasol ddechrau yn fuan y flwyddyn nesaf.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Cyn iddo gael ei ddatganoli, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru ym mis Mehefin 2017.  Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 8 Medi.  Fel y mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon yn ei ddangos, diben yr ymgynghoriad oedd ystyried cynigion Comisiwn y Gyfraith. Roedd y meysydd allweddol a nodwyd yn cynnwys cynigion a fyddai'n:

§    Cyflwyno safonau cenedlaethol ar gyfer pob tacsi a phob cerbyd hurio preifat â’r pŵer i awdurdodau trwyddedu lleol bennu safonau ychwanegol pan fo’n briodol gwneud hynny;

§    Ei gwneud yn haws i ddarparwyr tacsis a gwasanaethau hurio preifat weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol a bydd yn rhoi pwerau gorfodi newydd i swyddogion trwyddedu i ymdrin â cherbydau a gyrwyr sydd wedi eu trwyddedu mewn gwahanol ardaloedd; a

§    Cadw gallu awdurdodau trwyddedu lleol i gyfyngu ar nifer y tacsis sy’n gweithio yn yr ardal y maent yn ei thrwyddedu.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafodwyd yn fras y mater o weithio trawsffiniol yn eich ymchwiliad i fynediad pobl anabl at drafnidiaeth gyhoeddus.  Ar 4 Ebrill 2017 (PDF 286KB) dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Llogi Car Preifat Cofrestredig mewn tystiolaeth lafar:

I would suggest that the cross-border issue is more prevalent than it’s ever been because of technology enabling people to do things outside of their own area. I think there is a problem with that. Certainly, in London, where lots of people are licensed, drivers are popping up all over the place. I think the legislation doesn’t need to be protectionist, but it does need to take account of local provision. Local provision, including disabled provision, will be harmed if people from outside that don’t meet the regime’s standards and requirements come into an area. It devalues it. I think the Secretary of State and, obviously, the devolved powers like yourselves and, indeed, people like the Greater London Authority, do need to get to grips with this. I think the cross-border issue is a particularly interesting aspect for you guys to look at.

Ar 23 Mai 2017, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, ddatganiad yn y cyfarfod llawn ynghylch yr ymgynghoriad.  Meddai yn y datganiad (pwyslais wedi'i ychwanegu):

The piecemeal evolution of the regulation of taxi and private hire services has resulted in a complex and fragmented licensing system. The relationship between taxi and private hire services, commonly known as mini cabs, requiring pre-booking, is not clearly defined. The balance struck between national and local rules lacks an overarching rationale, resulting in duplication, inconsistencies and considerable difficulties in cross-authority enforcement.

Aeth yn ei flaen (pwyslais wedi'i ychwanegu):

I am keen to make it easier for providers to work across local authority borders, but with the appropriate arrangements in place to ensure that licensing officers have enforcement powers to deal with vehicles and drivers licensed in different areas. We have a responsibility to ensure that there is clarity of understanding and clear roles and responsibilities within the licensing regime to ensure that the quality of service, universally available, is achieved and maintained. Above all, we have a duty to ensure that the licensing arrangement in Wales safeguards the public and prevents the exploitation of the professional drivers that are delivering these very important services across our communities.

Pan ofynnwyd iddynt yn benodol am weithio trawsffiniol a gyrrwyr o Loegr yn gweithio yng Nghymru, sy'n broblem a nodir yn eglur yn y ddeiseb hon, ategodd Ysgrifennydd y Cabinet yr angen i gael “trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i fynd i'r afael â cherbydau a gyrrwyr a drwyddedwyd mewn ardaloedd gwahanol”.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.